Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2019
Amser:
09.15 -
12.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5489
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Caroline Jones AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Ian Williams, Llywodraeth Cymru Vivienne Lewis, Llywodraeth Cymru Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru
· Vivienne Lewis, Rheolwr Gorfodaeth a Benthyciadau Adfywio, Yr Is-adran Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i gael gwybodaeth ychwanegol am yr arolwg a gynhaliwyd gan swyddogion ynghylch y pwerau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Cytunodd y Gweinidog hefyd i ddarparu gwybodaeth am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw perchnogion eiddo yn gallu osgoi talu cyfradd premiwm y dreth gyngor.
3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth i'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymchwiliad i fudd-daliadau yng Nghymru.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2. Bu'r Pwyllgor hefyd yn trafod ac yn cytuno ar y materion allweddol ar gyfer yr ymchwiliad i eiddo gwag.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer yr ymchwiliad i fudd-daliadau yng Nghymru, a chytunodd arnynt.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenoriaethau ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, a chytunodd arnynt. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw capasiti yn rhaglen waith yr hydref i allu cynnwys unrhyw newidiadau i amserlen y gyllideb.